top of page

Croeso i EGLWYS JEWIN

Capel Hanesyddol yng Nghanol Llundain

Gwasanaethau Jewin

Gwasanaeth Cyffredin

Mae’r gwasanaethau yn dilyn trefn syml. Cychwynnir y gwasanaeth drwy ganu gweddi fer, sef yr intrada. Yna fe gyhoeddir yr emyn cyntaf gan y pregethwr cyn

ei ddarlleniad cyntaf. Dilynir yr ail emyn gyda gweddi sydd yn cloi gyda Gweddi'r Arglwydd. Bydd un o’r blaenoriaid wedyn yn cyhoeddi unrhyw newyddion cyn y casgliad a gymerir i gefnogi gwaith y capel. Wedi’r trydydd emyn bydd y pregethwr yn traddodi’r bregeth cyn cynnig bendith wedi'r emyn olaf.


Gwasanaethau dan ofal yr aelodau

Ar Sul cyntaf pob mis cynhelir gwasanaeth arbennig dan ofal yr aelodau, gan ganolbwyntio ar thema arbennig. Dilynir patrwm gwahanol i’r arfer gyda nifer o gyfranwyr yn cynnig amryw o eitemau yn hytrach na’r bregeth arferol.

Anchor 1

Digwyddiadau Arbennig

Cymanfa Ganu

Ar y trydydd Sul ym mis Mai ac ar Sul y Cofio byddwn yn cynnal ‘cymanfa ganu’ – gŵyl ganu emynau traddodiadol. Dyma gyfle i ganu nifer o hen ffefrynnau ac i ddarganfod emynau newydd dan ofal arweinydd gwadd.   
 

Plygain

Yn draddodiadol cynhelir y gwasanaeth ar doriad y wawr ar fore dydd Nadolig ond mi benderfynwyd cynnal gwasanaeth Jewin ar amser mwy cymdeithasol, sef ail Sul mis Ionawr am 5.00yh. Mae’r gwasanaeth yn nodweddiadol gan i’r carolau gael eu perfformio yn ddigyfeiliant gan unawdwyr, deuawd neu barti. Dilynir y gwasanaeth gan chaws a gwin sydd bellach yn bluen yng nghap digwyddiadau Nadolig y Cymry yn Llundain.
 

Nadolig

Yn ystod cyfnod y Nadolig cynhelir gwasanaeth o lithiau a charolau ar yr ail Sul ym mis Rhagfyr yn ogystal â’n Gwasanaeth Cymun Nadolig ar brynhawn y Sul cyn y Nadolig.

bottom of page