top of page

Crynodeb o hanes Eglwys Jewin

Sefydlwyd Jewin, capel Cymraeg hynaf Llundain, ‘tua 1774’ yn ôl y ffynonellau mwyaf dibynadwy, gan gynnwys sylwadau a gasglwyd gan y Parchg Ddr Owen Thomas yn ystod ei weinidogaeth yn nghanol y ddeunawfed ganrif.

 

Arferai carfan fechan o Gymry Llundain ymgynnull yn ystod y 1770au cynnar mewn 'goruwch ystafell' yn Cock Lane, Smithfield, i fynychu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a drefnwyd gan Edward Jones a Griffith Jones. Roedd Edward Jones o Lansannan yn gyn-filwr ac yn geidwad tafarn tra bu Griffith Jones yn gweithio fel masnachwr 'ginger beer'. Dau gymeriad anarferol yn y cyswllt hwn, a dweud y lleiaf.

 

Bu Edward Jones hefyd yn weithgar yng nghyfarfodydd y Cymry yn ne Llundain. Pregethodd y diwygiwr mawr, Howel Harris, yn Lambeth yn ystod ei ymweliad cyntaf i Lundain yn 1739 gan ddychwelyd nifer o weithiau yn y blynyddoedd dilynol. Y mae'n bosib y bu cyswllt cyson rhwng cymdeithasau Lambeth a Cock Lane. Erbyn tua 1785 roedd ystafell Cock Lane yn rhy fach ac fe symudwyd i gapel bychan yn Wilderness Row, ger cyffordd St John Street a Clerkenwell Road heddiw.

 

Hanes digon cythryblus fu hanes cynnar Wilderness Row. Roedd Edward Jones yn unben a byddai ei gosbau'n llym i unrhyw aelod oedd ar gyfeiliorn. Bu cryn ffraeo ymhlith yr aelodau a bu'n rhaid i'r Parch John Elias o Langefni ddod i geisio cymodi'r ddwy garfan. Gosodwyd seiliau cadarnach o lawer gan y Parchg James Hughes (‘Iago Trichrug’) a fu'n weinidog yr achos tan ei farwolaeth ym 1844. Erbyn hynny roedd yr eglwys wedi symud i Jewin Crescent. 

 

Olynwyd James Hughes gan rai o bregethwyr mwyaf yr enwad, gan gynnwys Dr Owen Thomas, David Charles Davies, a J E Davies ('Rhuddwawr'). Tyfodd Jewin i fod yn enw cyfarwydd a dylanwadol yn rhengoedd y Methodistiaid Calfinaidd.

 

Bu i’r gynulleidfa symud i adeilad crand iawn ym 1879, ar gornel Fann Street a Bridgewater Gardens, ar gost o £10,000. Dinistriwyd yr adeilad hwn yn ystod y Blitz yn 1940, a bu'r praidd yn ddigartref am 20 mlynedd. Agorwyd yr adeilad newydd ym 1960. Gweledigaeth y Parch D S Owen oedd hon, sef y gwr arbennig a fugeiliodd y praidd o 1915 hyd ei farw ym 1959.

 

Erbyn heddiw mae Eglwys Jewin yn llai o ran nifer yr aelodau, ond mae'r ewyllys i barhau cyn gryfed ag erioed. Dyma un o sefydliadau pwysicaf y Cymry yn Llundain o ran eu crefydd a'u diwylliant.

bottom of page